Diolch am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn[1]. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn eang ac mae’r holl faterion yn effeithio ar bobl hŷn drwy Gymru, ond tynnaf eich sylw at y materion penodol hyn i chi eu hystyried:
Mynediad pobl hŷn i’r celfyddydau a safleoedd/digwyddiadau diwylliannol yng Nghymru
Tra bod rhai pobl yn gallu cael mynediad i’r celfyddydau a safleoedd/digwyddiadau diwylliannol yng Nghymru, mae eraill yn methu am nifer o resymau, gan gynnwys tlodi ac incwm cyfyngedig (mae ymchwil diweddar gan Sefydliad Bevan yn awgrymu bod tlodi ymysg pobl hŷn ar gynnydd[2]), diffyg ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael (yn arbennig mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru), hygyrchedd (diffyg cludiant cyhoeddus a chydnabyddiaeth o’r angen am ganolfannau sy’n ystyriol o oed a dementia) a chostau cymryd rhan. Beth ellir ei wneud i annog nifer cynyddol o bobl hŷn i gael mynediad i’r cyfleoedd hyn drwy Gymru? Mae mynediad i gyfleoedd o’r fath yn llesol i’r unigolyn, yn dda i’r safleoedd/digwyddiadau a hefyd mae'n cyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o fod yn wlad sy’n ystyriol o ddementia a chyflawni ei hymrwymiadau yn ei Strategaeth Pobl Hŷn Rhan Tri h.y. cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol [3]. Mae sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad i’r celfyddydau a safleoedd/digwyddiadau diwylliannol yn ategu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, yn arbennig y nod i sefydlu cymunedau sy’n ystyriol o oed a dementia drwy Gymru[4]. Bydd Ymchwiliad hefyd yn gyfle i ddysgu yn sgil arfer da mewn mannau eraill e.e. Amgueddfeydd sy’n ystyriol o ddementia yn Lerpwl a Sporting Memories yn yr Alban [5][6].
Canfyddiad/portread o bobl hŷn yn y cyfryngau
Fel y pwysleisiwyd yn fy ymgyrch ‘Na i Oedraniaeth’[7], mae pobl hŷn yn aml yn cael eu portreadu yn y cyfryngau fel pobl fregus a diamddiffyn, fel pobl ddiwerth ac yn dreth ar adnoddau. Mae iaith negyddol a dirmygus beunyddiol am bobl hŷn yn golygu bod cymdeithas yn ffurfio barn gref wedi ei chamarwain am bobl hŷn, un sy’n aml wedi ei hybu gan y cyfryngau. Trwy wirfoddoli, gofalu, gweithio a ffyrdd eraill, mae pobl hŷn yn cyfrannu £1bn tuag at economi Cymru bob blwyddyn, ond mae’r cyfraniad sylweddol hwn yn aml yn cael ei ddiystyru neu ei anwybyddu, sy’n golygu bod y ddelwedd negyddol a bortreadir o bobl hŷn yn parhau.
Mae'n bryd herio’r mythau, y stereoteipiau a’r camganfyddiadau am bobl hŷn, ac yn hytrach dathlu eu hamrywiaeth a’u cyfraniad sylweddol tuag at yr economi a chymunedau ar draws Cymru. Oes gennym ni gyfryngau sy’n gwahaniaethu ar sail oed yng Nghymru? Ydi’r penawdau negyddol ac ymfflamychol mewn papurau newydd a mannau eraill yn helpu i hybu’r ddelwedd niweidiol hon fod pobl hŷn yn fwrn ar gymdeithas? Ydi’r penawdau hyn yn dylanwadu ar y ffordd mae ein cymdeithas sifil ehangach yn ystyried pobl hŷn, ac ydyn nhw’n effeithio ar y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn delio ag anghenion pobl hŷn, h.y. trwy brism iechyd a gofal cymdeithasol yn unig ac fel un grŵp unffurf sy’n dibynnu ar wasanaethau? Mae’r newid mewn agweddau a dathlu amrywiaeth pobl hŷn a’u cyfraniad yn ategu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru a fy null sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn seiliedig ar asedau tuag at bobl hŷn yng Nghymru, yn ogystal â’r nodau lles cenedlaethol yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Gobeithio y bydd y materion hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r Pwyllgor. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac eraill ar y materion hyn yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mae croeso i chi gysylltu â mi.